You are here

Home » Resources

Dewch i wneud llyfrnod Steve's Dreams

Cliciwch yma i lawrlwytho’r llyfrnod a’r cyfarwyddiadau.

Yn Steve’s Dreams: Steve and the Sabretooth Tiger gan Dan Anthony, mae Steve yn cael negeseuon rhyfedd yn dweud wrtho i fynd i’r Llyfrgell. Mynd i Lyfrgell Breuddwydion. Oherwydd bod angen iddo achub y byd...

Beth am wneud eich llyfrnod Steve's Dreams eich hun? Y cyfan sy’n rhaid i chi ei wneud yw argraffu hwn, torri ar hyd y llinellau, ei blygu a gludo’r ddwy ochr at ei gilydd. Gallech wneud llun ohonoch eich hun uwchben Steve neu ychwanegu eich enw. Gallech hefyd ychwanegu rhuban neu dasel os dymunech.